Mae’r Red Arrows wedi tynnu’n ôl o sioe awyr yn Y Rhyl heddiw (dydd Sul) oherwydd y tywydd.

Roedd disgwyl iddyn nhw gloi’r sioe am 5.30, ond maen nhw wedi penderfynu nad yw’n ddiogel iddyn nhw hedfan.

Mae trefnwyr y sioe wedi gorfod canslo nifer o arddangosfeydd yn ystod y dydd heddiw.

Mewn datganiad ar eu tudalen Facebook, dywedodd y Red Arrows, “Yn anffodus, oherwydd y tywydd erchyll mewn nifer o rannau o’r DU, fe fu’n rhaid i ni ganslo’r arddangosfeydd heddiw yn Wings And Wheels a’r Rhyl, ynghyd â hedfan tros Birmingham.

“Fe wnaeth yr amodau greu nifer o faterion logistaidd a gweithredol, oedd yn golygu dychwelyd yn gynt i’r pencadlys.”