Mae’r heddlu’n chwilio am eneth 15 oed sydd wedi bod ar goll ers dros wythnos, gan gredu y gall fod gyda dyn hŷn.

Nid yw Naomi Rees o Rydfelen ger Pontypridd wedi cael ei gweld ers bore Mercher 15 Awst, a’r gred yw y gallai fod gyda Tomas Baker, 20 oed, o Tamworth, Swydd Stafford.

Mae Heddlu’r De yn apelio ar Naomi gysylltu gyda nhw i ddweud ei bod yn iawn.

Mae lluniau ohoni ar deledu cylch cyfyng y diwrnod olaf iddi gael ei gweld, yn mynd i fws ar Ffordd Caerdydd yn Rhydfelen am 7.46am, ac yn ddiweddarach yn cerdded i barc Ynysangharad ym Mhontypridd am 8.06am.

Yn y lluniau, mae Naomi’n gwisgo sgarff hir, siaced dywyll, jîns tywyll a trainers du, ac yn cario bag.

‘Gofid mawr’

Meddai’r Ditectif Arolygydd Gareth Davies, sy’n arwain yr ymchwiliad:

“Rydym yn bryderus iawn am Naomi gan ei bod bellach dros wythnos ers iddi gael ei gweld ddiwethaf, ac nid yw wedi cysylltu â’i theulu sydd mewn gofid mawr.

“Ein neges i Naomi yw ein bod ni’n credu eich bod wedi gadael o’ch dewis eich hun, ond rhaid inni wybod eich bod yn iawn.

“Mae eich teulu a’ch ffrindiau yn hynod bryderus, ond dydych chi ddim mewn unrhyw fath o drwbwl, felly gadewch i’ch rhieini wybod eich bod yn ddiogel ac iach.

“Os yw Naomi gyda Mr Baker, yna fy neges yw nad yw’n rhy hwyr gwneud y peth iawn.

“Ein blaenoriaeth yw gwybod bod Naomi yn saff a’i chael hi’n ôl adref at ei theulu, felly os yw ef mewn sefyllfa i wneud hynny, yna dylai gysylltu â ni ar unwaith.”