Mae pennaeth ysgol gynradd Gymraeg yn Abertawe wedi cyfaddef creu delweddau anweddus o blentyn.

Fe wnaeth Rhian DeSouza, 43, sydd wedi’i gwahardd o’i swydd yn Ysgol Gymraeg Gellionnen, gyfaddef i ddau gyhuddiad yn Llys Ynadon Llanelli ar 15 Awst.

Bydd yn cael ei dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 14 Medi.

Mae’r ysgol a Chyngor Abertawe wedi dweud nad yw’r achos yn ymwneud ag unrhyw blentyn y mae’r brif athrawes wedi ei ddysgu.

“Hoffem sicrhau rhieni nad yw’r achos llys yn ymwneud â disgybl presennol nac un o’r gorffennol mewn unrhyw ysgol mae’r unigolyn wedi dysgu ynddi,” meddai’r datganiad ar y cyd.

“Yn syth ar ôl i ni ddod yn ymwybodol o ymchwiliad gan yr heddlu, fe gafodd hi ei gwahardd.

“Bydd pennaeth dros dro mewn lle, ac mae cefnogaeth i sicrhau nad oes effaith ar weithgareddau dydd i ddydd yr ysgol.”

“Camdriniaeth ofnadwy”

Meddai llefarydd ar ran elusen NSPCC Cymru: “Yn brif athrawes mewn ysgol gynradd, roedd De Souza mewn swydd lle oedd ganddi lawer o gyfrifoldeb dros blant.

“Mae hi’n llwyr ymwybodol, buaswn yn tybio, bod y plant sy’n ymddangos mewn delweddau anweddus ar-lein yn destun camdriniaeth ofnadwy. Trosedd yw creu’r fath luniau.

“Mae’r NSPCC yn ymgyrchu tros sicrhau bod rhagor yn cael ei wneud i waredu’r fath ddeunydd o’r we. Rydym hefyd yn ymweld â channoedd o ysgolion cynradd bob blwyddyn i ddysgu plant ynglŷn â sut i aros yn ddiogel rhag camdriniaeth, ac i ofyn am help os oes ganddyn nhw bryderon.”