Mae Cyngor Caerdydd yn cydnabod bod “pwysau penodol” ar ddarpariaeth addysg Gymraeg mewn rhai ardaloedd o’r brifddinas.

Ond mae’n mynnu hefyd bod digon o leoedd i blant a phobol ifanc mewn ysgolion Cymraeg er mwyn “bodloni’r galw” cyffredinol.

Roedd Aelod Cabinet y Cyngor, Sarah Merry, sy’n gyfrifol am addysg yn y ddinas, yn ymateb i feirniadaeth Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd, sy’n dweud bod dim digon o ddarpariaeth ar gael yn eu hetholaeth.

Yn ôl Anna McMorrin, mae dwy ysgol gynradd yn ei hardal – Ysgol y Wern ac Ysgol Mynydd Bychan yn llawn, heb le i ddisgyblion newydd.

 “Ehangu’r ddarpariaeth”

Dywedodd Sarah Merry y byddai’r Cyngor yn ceisio mynd i’r afael â’r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn y brif ddinas.

“Rydym yn benderfynol o ehangu darpariaeth Gymraeg a dewis rhieni yng Nghaerdydd; does dim amheuaeth am hynny,” meddai mewn datganiad wrth golwg360.

“Ers 2012, mae’r cyngor wedi creu ysgol uwchradd Gymraeg newydd ac ysgol gynradd Gymraeg newydd ac ehangu pedair ysgol gynradd Gymraeg arall yn sylweddol ledled y ddinas.

“Rydym wrthi’n adeiladu tair ysgol gynradd Gymraeg – Ysgol Hamadryad, Ysgol Glan Morfa ac Ysgol Glan Ceubal.

“… Mae gan ein Huned Drochi hanes cadarn o helpu teuluoedd i symud o addysg Saesneg i addysg Gymraeg, gan sicrhau proses bontio lwyddiannus.

“Yn gyffredinol, mae gennym ddigon o lefydd Cymraeg i fodloni’r galw ledled y ddinas, ond rydym yn cydnabod bod pwysau penodol mewn rhannau penodol o Gaerdydd; nid dim ond yn y gogledd, ac rydym wrthi’n edrych ar opsiynau i fynd i’r afael â hyn.

“Yn ogystal, mae ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, Caerdydd 2020 – ein gweledigaeth newydd ar gyfer addysgu a dysgu yng Nghaerdydd – yn nodi ymrwymiad clir a diamwys i gynnig mwy o leoedd ysgol a sicrhau bod darpariaeth ar gael i bob teulu sy’n dewis addysg Gymraeg.”

Ffigurau ar draws y ddinas

Yn ôl ffigurau Cyngor Caerdydd, ar gyfer y flwyddyn ysgol 2018/19, mae 7% o leoedd ym Mlwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd Cymraeg ar gael o hyd.

Mewn ysgolion cynradd Cymraeg, mae 15% o leoedd mewn Dosbarthiadau Derbyn ar gael.