hithau’n benwythnos Gŵyl y Banc, mae disgwyl problemau trafnidiaeth ledled y wlad dros y tridiau nesaf.

Mae gwaith peirianyddol ar Orsaf Euston, yn golygu bydd teithiau o ogledd Cymru i Lundain yn cymryd tua wyth awr – bron dwbl yr hyd arferol.

A rhwng Pontypridd a Threherbert mi fydd yn rhaid i deithwyr ddal bysys yn lle’r trên arferol.

Bydd ffyrdd Cymru tipyn yn brysurach ac mae’n ddigon posib y bydd hi’n cymryd dwywaith yr amser arferol i gyrraedd rhai llefydd.

Ar yr M4 ger Casnewydd y bydd pethau ar eu gwaethaf, mae’n debyg, ac mi fydd tagfeydd ar eu hanterth rhwng 10.30 y bore a 5.30 yr hwyr.

Mae arbenigwyr yn cynghori modurwyr i deithio naill ai yn gynnar yn y bore, neu’n hwyr yn y prynhawn, os ydyn nhw am osgoi traffig.