Mae wedi dod i’r amlwg bod pobol yn dewis peidio ffonio’r heddlu i achwyn am achosion troseddol, oherwydd ansawdd wael gwasanaeth ‘101’ yr heddlu.

Cafodd llinell ffôn 101 ei gyflwyno bron i ddegawd yn ôl, fel bod y cyhoedd yn medru adrodd achosion llai difrifol i’r heddlu, ac er mwyn lleddfu’r pwysau ar wasanaeth 999.

Ond bellach mae wedi dod i’r amlwg bod canran uchel o bobol sy’n galw 101 yn rhoi’r ffôn i lawr, ar ôl cael llond bol o aros am ateb.

Mae adroddiad gan y BBC yn cyfeirio at ddynes ffoniodd 101 i sôn am achos o aflonyddu yn erbyn mam ifanc.

Fe roddodd y ddynes y gorau i’r alwad ar ôl 22 munud o aros am ateb.

Yn ôl adroddiadau, mae nifer y bobol sy’n cefnu ar y gwasanaeth 101 yn cynyddu ledled Cymru.

Ffigurau

  • Cafodd 14% o alwadau 101 (135,389 o alwadau i gyd) eu canslo neu eu hailgyfeirio’r llynedd
  • Roedd y nifer ar ei uchaf yn ardal Heddlu Gwent
  • Cafodd un o bob pum galwad eu canslo yno (47,000 i gyd)

Daeth y ffigurau yma i law’r BBC.