Mae’r cyn-Aelod Cynulliad, Simon Thomas, wedi’i ryddhau ar fechnïaeth am fis arall gan Heddlu Dyfed-Powys.

Fe gafodd ei arestio ddiwedd Gorffennaf ar amheuaeth o fod â delweddau anweddus yn ei feddiant.

Mewn ymateb i gais am ddiweddariad ar y sefyllfa, mae’r heddlu’n cadarnhau fod “unigolyn” wedi ei ryddhau ar fechnïaeth am 28 diwrnod arall.

“Mae’r unigolyn o Aberystwyth, a gafodd ei arestio ym mis Gorffennaf ar amheuaeth o fod â delweddau anweddus yn ei feddiant, wedi’i ryddhau ar fechnïaeth eto am 28 diwrnod arall.”

Fe ymddiswyddodd Simon Thomas o’i swydd yn Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac o fod yn aelod o Blaid Cymru, ar Orffennaf 25, 2018.