Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi galw am wahardd trydydd parti rhag gallu gwerthu cathod a chŵn bach yng Nghymru.

Daw’r alwad yn sgil gwaharddiad tebyg yn Lloegr a gafodd ei gyhoeddi gan Weinidog yr Amgylchedd yn San Steffan, Michael Gove.

Yn sgil y gwaharddiad, fe fydd unrhyw un sydd am brynu cath neu gi bach fynd yn syth at fridiwr neu at ganolfan anifeiliaid.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cynllun yn Lloegr sydd yn ceisio gwarchod diogelwch a lles anifeiliaid, ac mae Andrew RT Davies wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried mesurau tebyg er mwyn dod â chreulondeb yn erbyn anifeiliaid i ben yng Nghymru.

‘Cenedl wirioneddol gyfeillgar i anifeiliaid’

“Mae’r cam hwn gan Michael Gove i’w groesawu ac mae’n dangos ymrwymiad y Ceidwadwyr i sicrhau’r safonau lles anfeiliaid uchaf yn y byd,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae gan dde-orllewin Cymru wledig y crynodiad mwyaf yng ngwledydd y Deyrnas Unedig o fridwyr cŵn masnachol ac, yn drist iawn, fe gaiff ei gydnabod fod rhai yn cynhyrchu cŵn bach mewn amodau ofnadwy.

“Gall bridwyr anghyfrifol gyfrannu at ddechrau di-drefn mewn bywyd ac fe all arwain at broblemau iechyd difrifol a diffyg cymdeithasoli i gŵn a chathod bach.”

Dywed ei fod yn galw am waharddiad er mwyn “sicrhau bod Cymru’n dod yn genedl sydd yn wirioneddol gyfeillgar i anifeiliaid”.