Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn am gymorth y cyhoedd wrth geisio dod o hyd i fan o wneuthuriad Mercedes Sprinter a fu mewn gwrthdrawiad gyda cherddwr yng Nghaerfyrddin brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Awst 21).

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 2.35yp yn y gyffordd rhwng Ffordd Dolgwili a Rhodfa Nash.

Mae dyn 75 oed wedi brifo, ond mae mewn cyflwr sefydlog.

Fe fu’r ffordd ynghau rhwng y ddwy gylchfan am beth amser, ond mae bellach ar agor.