Mae sefydlydd grŵp ffeministaidd newydd o dros 3,000 o aelodau, sy’n mynd dan yr enw ‘Menywod Cŵl Cymreig’, wedi wfftio’r feirniadaeth bod y grŵp yn “ecsgliwsif” yn ymddwyn yn yr un ffordd ag yr oedd clybiau dynion yn gwneud yn y gorffennol.

Cafodd grŵp Facebook ‘Menywod Cŵl Cymreig’ ei sefydlu wythnos yn ôl, wedi i hashnod o’r un enw ddod yn boblogaidd ar wefan Twitter, a hyd yn hyn (pnawn Mawrth, Awst 21) mae dros 3,600 wedi ymuno.

Dim ond menywod sy’n cael ymuno â’r grŵp, ac yn ôl ei sefydlydd, Melangell Dolma, ei nod yw cynnig “lle saff” i fenywod drafod, hysbysebu digwyddiadau a chefnogi ei gilydd.

Yn sgil beirniadaeth ar gyfryngau cymdeithasol, mae Melangell Dolma yn dweud mai “tipyn o hwyl” yw enw’r grŵp ac na ddylai menywod deimlo nad ydyn nhw’n gallu ymuno gan nad ydyn nhw’n ddigon ‘cŵl’.

“Mi oedd yna ychydig o feirniadaeth ar Twitter o ran ei fod o’n swnio fel ei fod o’n ecsgliwsif, a bod ‘na feirniadaeth ynglŷn â phwy sy’n cŵl,” meddai wrth golwg360.

“Ond dim dyna ydi o, o gwbwl. Dathliad ydi o o faint mor cŵl ydi pob un ddynes unigryw yng Nghymru.

“Dw i’n teimlo’n gryf iawn na ddylai neb deimlo bod nhw ddim yn cael bod yn rhan o’r grŵp yma, neu ei fod o ddim yn grŵp iddyn nhw.

“Os ydyn nhw’n ddynes, neu’n Gymraeg, neu’n considro’u hunain yn ddynes, wedyn mae o iddyn nhw.”

Tyfu

Mae Melangell Dolma yn dweud bod nifer aelodau’r grŵp Facebook yn dal i dyfu a bod hynny’n “beth gwych”. Ac mae’n ategu bod yna awydd am y fath grŵp.

“Dw i jest yn meddwl bod nifer y bobol sydd wedi ymuno â’r grŵp Facebook a ballu, yn dangos bod yna chwant am hynna – bod pobol isio cysylltu,” meddai.

“A rhywsut, mae’n rhyfedd meddwl bod yna ddim rhwydwaith dros Gymru o ferched yn bodoli yn barod ar y we a’r cyfyngau cymdeithasol.”

Mae yna 24 gweinyddwr ar y grŵp – aelodau sydd yn medru derbyn neu wrthod aelodau newydd – ac mae 572 neges wedi’i phostio i’r grŵp gael ei sefydlu.

Y dyfodol

Ifanc iawn yw’r mudiad ‘Menywod Cŵl Cymreig’ a hyd yma does dim sicrwydd ynglŷn â phwy sydd yn ei arwain, nac am y trywydd y byddan nhw’n ei ddilyn.

Mae Melangell Dolma yn cydnabod bod yna “rywfaint o wahaniaeth barn” ymhlith aelodau, ac mae hi’n awyddus i weld yr holl beth yn cael ei “strwythuro” yn fwy.

Hoffai weld “grŵp craidd” yn cael ei sefydlu i’w arwain, meddai, a bod y grŵp Facebook yn dod yn fwy na phlatfform cymdeithasol yn unig.

O ran agweddau eraill y mudiad, mae Llio Maddocks – y ffigwr a ddechreuodd edefyn Twitter #merchedcwlcymreig – wedi dechrau cylchlythyr, ac mae holiadur am eu dyfodol wedi’i greu.