Mae gweddw cyn-Aelod Cynulliad Glannau Dyfrdwy yn herio’r ymchwiliad sydd wedi’i sefydlu er mwyn darganfod sut gafodd Carl Sargeant ei ddiswyddo.

Mewn datganiad gan ei chyfreithwyr heddiw, mae Bernie Sargeant yn dweud ei bod yn pryderu am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn dod at y mater – a’i hofn mwyaf, meddai, yw mai ymgais i gelu’r gwirionedd sydd yma.

Diswyddwyd Carl Sargeant gan Carwyn Jones fis Tachwedd diwetha’ o’i swydd fel Gweinidog Cymunedau a Phlant, Llywodraeth Cymru.

Mae cyfreithwyr Bernie Sargeant wedi cofrestru eu cais am adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys yn Llundain yr wythnos ddiwethaf, gan ddweud ei bod yn “herio penderfyniad anghyfreithlon Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phrotocol gweithredol yr ymchwiliad, a fydd yn penderfynu sut y bydd yr ymchwiliad yn mynd rhagddo”.

Mae’r ymchwiliad yn cael ei arwain gan Paul Bowen QC yn rhinwedd ei swydd yn gadeirydd ac fel ymchwilydd annibynnol, ond mae’r protocol wedi’i ddrafftio gan yr Ysgrifennydd Parhaol, sy’n atebol i’r Prif Weinidog.

Mae Bernie Sargeant yn herio’n benodol y penderfyniadau i:

  • wahardd cyfreithwyr y teulu rhag gallu holi tystion;
  • caniatau’r ymchwilydd annibynnol i wahardd y teulu rhag bod yn y gwrandawiadau;
  • rhwystro tystiolaeth ar lafar rhag cael ei glywed yn gyhoeddus;
  • rhwystro’r ymchwilydd annibynnol rhag gallu galw tystion.