Mae adroddiadau fod cwmni adeiladu Americanaidd wedi tynnu’n ôl o adeiladu Wylfa Newydd “yn hollol anghywir”, yn ôl cwmni Horizon Nuclear Power.
Roedd papur newydd Siapaneaidd wedi adrodd ddydd Gwener fod un o bartneriaid prosiect Horizon, Bechtel, am dynnu’n ôl o adeiladu’r cynllun £12bn.
Maen nhw’n dweud fod hynny oherwydd costau cynyddol y prosiect yn Ynys Môn.
“Traed oer”
“Gwta ddwy flynedd wedi i Bechtel gael ei ddewis fel partner adeiladu, mae’n ymddangos eu bod wedi dod i’r casgliad na fyddai’n gwneud synnwyr ariannol iddyn nhw gymryd rhan yn y fath brosiect enfawr ac eithafol o ddrud,” meddai Dylan Morgan o fudiad PAWB (Pobol Atal Wylfa B).
“Adroddir bod gwahaniaeth barn rhwng Hitachi a Bechtel ar gost yr adeiladu gydag amcangyfrifon Bechtel yn uwch.
“Os yw cwmni mor fawr â Bechtel yn cael traed oer, bydd hi’n anodd i Hitachi gael cwmni arall i gymryd eu lle. Un syniad a grybwyllwyd oedd y gallai Horizon gymryd lle Bechtel i reoli’r adeiladu.
“Byddai’r risg ynghlwm â hynny’n enfawr gan mai is-gwmni lleol i Hitachi yw Horizon heb unrhyw brofiad o adeiladu dim byd, heb sôn am ddau adweithydd niwclear anghenfilaidd.
“Nid oes gan Hitachi chwaith brofiad o adeiladu adweithyddion niwclear. Eu hanes fu cynnig cynlluniau eu hadweithyddion dŵr berw i gwmnïau eraill eu hadeiladu.”
“Camarweiniol”
Dywed Richard Foxhall o gwmni Horizon: “Mae hi’n hollol anghywir dweud bod Bechtel yn tynnu’n ôl o Brosiect Wylfa Newydd – maen nhw’n dal wrth galon ein tîm cyflenwi sydd gyda’r gorau yn y byd.
“Mae’r adroddiadau sydd wedi ymddangos yn y cyfryngau yn Japan yn hollol anghywir ac yn gamarweiniol.
“Wrth ystyried eu degawdau o brofiad byd-eang o ddarparu prosiectau seilwaith enfawr yn llwyddiannus, gan gynnwys cymryd rhan mewn dros 150 o orsafoedd niwclear, mae Bechtel wedi bod yn aelod allweddol o’n prosiect ers blynyddoedd a bydd yn chwarae rhan yr un mor ganolog a hanfodol wrth symud ymlaen.”