Mae tua 30 o ddiffoddwyr tân yn dal i frwydro tân mewn siop yng Nghaernarfon ar ôl iddyn nhw gael eu galw yno bore ’ma.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân y Gogledd eu bod wedi cael eu galw am 8.49 y bore ma (dydd Llun, Awst 20) i’r tân yng ngwaelod siop ffonau symudol Get Connected, gyda fflat uwchben, yn Stryd Llyn y dref.

Mae chwe chriw o ddiffoddwyr yno wedi bod yn defnyddio jetiau dŵr i geisio diffodd y fflamau. Roedd rhaid iddyn nhw hefyd ddefnyddio camerâu thermal i weld os oedd yna unrhyw un yn yr adeilad.

Mwg

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Get Connected mai rheolwr y siop yng Nghaernarfon, Garry Roberts, wnaeth alw’r gwasanaethau brys.

“Pan aeth i mewn y bore ’ma, roedd yn gallu arogli mwg ac yn gweld dŵr yn llifo o’r to,” meddai’r llefarydd.

Mae’r diffoddwyr wedi gorfod wynebu mwg trwchus ac arogleuon cryf wrth geisio canfod canolbwynt y tân sy hefyd wedi lledu i siop barbwr Twrcaidd y drws nesa’.

Roedd dau ambiwlans wedi cael eu galw yno hefyd, fel rhagofal.

Mae pobl hefyd wedi gorfod gadael rhai adeiladau gerllaw wrth i swyddogion ddelio gyda’r tân.

Ymchwiliad

Dywedodd y prif swyddog tân Geraint Hughes nad oedd unrhyw un wedi cael eu hanafu a’u bod yn ymchwilio i weld sut y dechreuodd y tan.

Dywedodd John Williams o siop The Works yn Stryd Llyn: “Roedden ni yn agor y siop y bore ma ac roedden ni wedi gweld un peiriant tân ac wedyn un arall. Roedd yna fwg yn chwyrlio allan o’r adeilad.”

Mae’r heddlu a’r gwasanaeth tân yn cynghori pobol i gadw draw o’r ardal ar hyn o bryd ac mae’n debyg y bydd rhannau o’r stryd ynghau am y rhan fwyaf o’r dydd.

Following the discovery of a cannabis farm, Gwynedd Council are considering renaming Pool Street…to High Street…???

Posted by John Williams on Monday, 20 August 2018

Fideo: John Williams