Mae Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio ar ôl i yrrwr beic modur gael ei ladd mewn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych ddydd Sadwrn (Awst 18).

Cafodd yr heddlu eu galw i’r gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd – beic modur Honda CBR 600 a char Peugeot 206 lliw arian – ar ffordd yr A543 yn Bylchau, Dinbych am 3.45yp ddydd Sadwrn.

Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a’r lle. Nid oedd yn byw yn lleol ac mae’r heddlu wedi hysbysu ei deulu sy’n cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a oedd yn teithio ar hyd yr A543 ychydig cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu.

Bu’r ffordd ynghau am beth amser wedi’r gwrthdrawiad gan ail-agor am 8.30yh nos Sadwrn.