Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r clocsiwr adnabyddus Owen Huw Roberts o Ynys Môn a fu farw ddoe (dydd Sadwrn, 18 Awst).

Roedd yn 87 oed ac wedi parhau i ddawnsio a hyfforddi tan yn ddiweddar.

Mae’n cael ei gofio am ei gyfraniad fel dawnsiwr a chlocsiwr, beirniad a hyfforddwr.

Ymhlith y rhai sydd wedi rhoi teyrnged iddo ar Twitter mae’r actores a’r awdures Eiry Palfrey, o Gymdeithas Ddawns Werin Cymru.

Dywedodd fod Owen Huw Roberts yn “un o hoelion wyth y ddawns werin. Clocsiwr penigamp. Heddwch i’w lwch.”

Ychwanegodd Eirlys Phillips ar Twitter: “Diolch iddo am gyfraniad enfawr fel dawnsiwr a chlocsiwr o fri, beirniad profiadol, hyfforddwr heb ei ail a pherson addfwyn iawn. Bydd bwlch mawr ar ei ôl.”

Gellir darllen teyrnged iddo gan John Idris Jones, cadeirydd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yma...