Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion yn dilyn damwain ffordd ddifrifol yng nghyffiniau Caerdydd yn ystod oriau mân bore heddiw (dydd Sadwrn, Awst 18).

Fe ddigwyddodd rhwng cylchfan McDonald’s a’r parc sglefrio ar yr A4055 yn Dinas Powys.

Fe fu car Skoda Superb a Seat Leon llwyd mewn gwrthdrawiad tua 2.10yb, ac fe gafodd gyrrwr y ddau gerbyd eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Fe fu’r ffordd ar gau am chwech awr tra’r oedd y gwaith o ymchwilio i achos y ddamwain yn mynd rhagddo.

Mae’r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y ddamwain, neu sydd wedi recordio’r digwyddiad ar dashcam neu ar ffôn symudol.

Maen nhw’n arbennig o awyddus i gysylltu â gyrrwr Jaguar a allai fod wedi sylwi ar ymddygiad gyrrwrw y Seat jyst cyn i’r ddamwain ddigwydd, a chyn i’r heddlu gyrraedd.