Mae Cyngor Casnewydd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ail-enwi Felodrôm Cenedlaethol Cymru ar ôl y seiclwr, Geraint Thomas.

Maen nhw wedi penderfynu ail-enwi’r lle yn ‘Felodrôm Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas’ yn dilyn llwyddiant y gŵr o Gaerdydd yng nghystadleuaeth y Tour de France fis diwetha’.

Wrth dderbyn yr anrhydedd, dywed Geraint Thomas fod yr ailenwi yn “anrhydedd enfawr” iddo, a’i fod ddim yn “gallu credu’r peth”.

Pwysig i’w yrfa

Mae’r felodrôm wedi cael tipyn o ddefnydd gyda Geraint Thomas yn ystod ei yrfa.

Mae wedi bod yn hyfforddi yno ers ei agor yn 2003, a bu yno gyda Thîm GB cyn y Gemau Olympaidd yn 2012 pan enillodd ei ail fedal aur.

Bu yno hefyd gyda Thîm Cymru cyn Gemau’r Gymanwlad yn 2014 pan enillodd fedal arall.

“Mae’r Felodrôm wedi chwarae rôl bwysig yn fy hanes beicio ac yn parhau i chwarae rôl alweddol o ran ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o feicwyr yn Ne Cymru,” meddai.

“Mae’n gyfleuster gwych i feicwyr o bob oed a gallu i ddatblygu eu talentau.”

“Llwyddiant aruthrol”

Yn ôl Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Casnewydd, mae’r ddinas yn awyddus i gydnabod “llwyddiant aruthrol” Geraint Thomas yn y Tour de France.

“Dyma’r wobr fwyaf trawiadol mewn gyrfa lewyrchus sy’n cynnwys llu o wobrau, yn cynnwys dwy fedal aur ar y trac yn y gemau Olympaidd,” meddai.

“Bu Geraint yn ymwelydd rheolaidd i Felodrôm Cenedlaethol Cymru ers ei agor yn 2003 ac mae wedi dweud gymaint y mae wedi ei olygu iddo, felly mae’n gwbl addas i Gasnewydd roi’r anrhydedd hon iddo.”

Ymweliad â Chasnewydd

Bydd y beiciwr yn ymweld â Chasnewydd y mis nesa’, a hynny’n rhan o Dîm Sky a fydd yn cystadlu yn Taith Prydain.

Mae disgwyl i’r ddinas ei groesawu ar ddiwedd y cymal cyntaf ar ddydd Sul, Medi 2.