Mae Sir Frycheiniog wedi colli un o’i bannau, ar ôl i ddata technolegol newydd brofi bod un mynydd, mewn gwirionedd, yn fryn.

Mae Fan y Big yn rhan o’r gefnen uchel sy’n anelu tua’r dwyrain o fynydd Pen y Fan.

Ond yn dilyn mesuriadau newydd yn defnyddio technoleg lloeren,  mae’r darn o dir wedi colli ei statws fel mynydd gan nad yw’n bodloni’r meini prawf.

Er mwyn bod yn ar y rhestr o fynyddoedd yn Lloegr, Cymru ac Iwerddon, mae’n rhaid i bob mynydd fod ag uchder o leia’ 2,000 troedfedd (610m), gyda chwymp o’r copa i’r col yn mesur 98.4 troedfedd (30m) neu’n uwch.

Ond er bod arolwg o Fan y Big, a gafodd ei arwain gan Myrddyn Phillips o’r Trallwng, yn dangos bod ganddo uchder o 2,351 troedfedd (717.6m), roedd mesuriadau o’r cwymp yn 93.4 troedfedd (28.5m).

Dim ond pum troedfedd (1.5m) felly oedd eu hangen er mwyn cadw statws Fan y Big o fod yn fynydd.