Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi cyllid gwerth £10m a fydd yn mynd i’r afael â chyffuriau, ffonau symudol ac ansawdd byw mewn carchardai.

Mae’r gweinidog sy’n gyfrifol am y maes, Rory Stewart, wedi cyhoeddi pecyn trawsnewid ar gyfer 10 carchar yn benodol.

Gobaith Rory Stewart yn y pen draw yw y bydd hyn yn arwain y ffordd at greu “ethos newydd” mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr.

Y 10 carchar

Y deg carchar fydd yn elwa o’r pecyn ariannol fydd yr un yn Hull, Humber, Leeds, Lindholme, Moorland. Wealstun, Nottingham, Ranby, Isis a Wormwood Scrubs.

Y nod yw gosod sganwyr arbennig yn y carchardai hyn fydd yn gallu darganfod unrhyw becynnau sydd wedi’u cuddio ar gyrff carcharorion, gyda chŵn yn cael eu defnyddio i wneud gwaith tebyg hefyd.

Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith cynnal a chadw a hyfforddiant i staff.

Gwella ansawdd carchardai

“A dros 20,000 o swyddogion carchar, 84,000 o garcharorion a dros 100 o garchardai, mae’n hanfodol ein bod ni’n gosod safonau heriol fel bod y carchar yn lleoliad lle y gall troseddwyr newid eu ffordd o fyw,” meddai Rory Stewart.

“Gyda’r arweiniad iawn ar lawr gwlad, cefnogaeth o’r canol, bydd y 10 carchar yn arwain y ffordd at ethos newydd a chyfeiriad newydd.

“Mae angen i ni wneud carchardai yn fwy heddychlon, yn llefydd sydd â mwy o drefn ac, yn y pen draw, mae hynny’n dod i lawr at herio a rheoli carcharorion yn barhaus, yn gadarn ac yn deg.”