“Mae’r broses o adeiladu cenedl a fydd yn ein harwain at annibyniaeth angen cychwyn heddiw”.
Dyna’r hyn y mae disgwyl i Adam Price ei ddweud yn lansiad swyddogol ei ymgyrch er mwyn bod yn arweinydd Plaid Cymru.
Mae’r Aelod Cynulliad eisoes wedi cyflwyno rhai o brif bwyntiau ei weledigaeth ar gyfer yr arweinyddiaeth, sy’n cynnwys newid enw ei blaid i ‘Blaid Newydd Cymru / New Wales Party’ a chynnydd o 1c mewn treth incwm er mwyn cefnogi addysg.
Ond mewn digwyddiad yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin heno (Awst, 17), mae disgwyl iddo roi annibyniaeth i Gymru ar flaen yr agenda.
‘Refferendwm cyn 2030’
Yn ôl Adam Price, os bydd yn cael ei ethol yn arweinydd Plaid Cymru, mae am anelu at sefydlu llywodraeth sydd o blaid annibyniaeth a chynnal refferendwm ar y mater cyn 2030.
Dywed hyn wrth iddo sylwi bod yna “nifer gynyddol” o bobol eisiau newid Cymru fel gwlad.
“Annibyniaeth yw’r rheswm y gwnes i ymuno â Phlaid Cymru ac wedi parhau’n aelod am 36 mlynedd,” meddai.
“Dw i wastad wedi bod yn gyson bod angen i anelu at greu Cymru annibynnol cyn gynted â phosib.
“Gall annibyniaeth fyth bod yn opsiwn saff neu ‘ganol y ffordd’.
“Pan ydym ni wedi ceisio osgoi dweud dim a fydd yn rhoi ofn i bleidleiswyr, dydyn ni ddim wedi dweud dim byd.
“Dros yr wythnosau nesa’, dw i’n gobeithio perswadio aelodau’r blaid y byddan nhw, trwy fy ethol i’n arweinydd newydd ar Blaid Cymru, yn cael llwybr glir a dilys tuag at Gymru annibynnol.”
Ras am yr arweinyddiaeth
Mae Adam Price yn wynebu her am yr arweinyddiaeth wrth ddau o’i gyd-aelodau yn y Cynulliad, sef Rhun ap Iorwerth a Leanne Wood.
Mae disgwyl i enw’r buddugwr gael ei gyhoeddi ar Fedi 29, a hynny wythnos cyn cynhadledd y blaid ym mis Hydref.