Mae nifer y cwynion yn erbyn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi cynyddu i’w lefel uchaf erioed, yn ôl ffigyrau newydd.
Mae adroddiad yn dangos bod nifer y cwynion yn erbyn cyrff y Gwasanaeth Iechyd wedi cynyddu 7% yn y flwyddyn ddiwethaf – o 863 i 927.
Dywed yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, fod y cynnydd hwn yn “bryder gwirioneddol” ac yn cyfrif am “fwy na 40%” o’r cwynion sy’n cyrraedd ei ddesg.
Cynnydd
Yn ôl yr adroddiad, roedd cwynion yn erbyn Byrddau Iechyd wedi cynyddu 11% yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda’r nifer mwyaf o gwynion yn ymwneud â Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac Aneurin Bevan. Yn y byrddau hynny, bu cynnydd o 29% a 34%.
Roedd cwynion yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y lefel gymedrol o 3%, ond eto roedd yn cynrychioli 186 o gwynion, sef y nifer uchaf o unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru.
“Pryder gwirioneddol”
“Mae’r cynnydd graddol yn nifer y cwynion iechyd yn bryder gwirioneddol ac maent bellach yn cyfrif am fwy na 40% o gyfanswm llwyth fy swyddfa,” meddai Nick Bennett.
“Mae llawer o gwynion gofal iechyd yn gymhleth, yn sensitif ac yn arwyddocaol, yn aml yn cynnwys niwed neu farwolaeth aelod o’r teulu.
“Maent yn aml yn cymryd mwy o amser i ymchwilio na chwynion eraill oherwydd difrifoldeb y materion sy’n cael eu codi a’r angen am gyngor clinigol.
“Pan fydd fy swyddfa yn darganfod anghyfiawnder, rydym yn disgwyl i gyrff ymgymryd â’r dysgu o fy ymchwiliadau.”
Ffigyrau eraill
Y cyfanswm o gwynion a dderbyniodd yr Ombwdsmon yn 2017/18 oedd 2,253, sef 2% yn llai na’r flwyddyn flaenorol.
Yn ôl yr adroddiad, mae’r lleihad hwn yn bennaf oherwydd y gostyngiad o 10% mewn cwynion ynghylch gwasanaeth awdurdodau lleol.
Ond ar yr un pryd, roedd cwynion bod cynghorwyr lleol wedi torri eu cod ymddygiad wedi cynyddu 14%.