Y Gymraeg yn ‘ddymunol’ – nid hanfodol – i swydd Pennaeth Addysg

Diweddarwyd  
Garffild Lloyd Lewis

Y Cynghorydd Garffild Lloyd Lewis sy’n gyfrifol am Addysg ar Gabinet Cyngor Conwy

Mae Cyngor Sir Bwrdeistref Conwy o dan y lach ar ôl iddyn nhw hysbysebu am Bennaeth Addysg newydd, gan nodi bod y Gymraeg yn “ddymunol” yn hytrach nag yn “hanfodol”.

Dyma’r eildro i’r swydd Prif Swyddog Addysg gael ei hysbysebu gan yr awdurdod lleol, ac mae’r gofyniad iaith wedi newid o fod yn ‘hanfodol’ yn yr hysbyseb gwreiddiol, i ‘ddymunol’ yn yr ail-hysbyseb.

Mae’r grŵp pwyso, Cylch yr iaith, wedi dweud bod hyn yn “gwbwl annerbyniol”, ac wedi galw ar i’r Cyngor newid gofyniad iaith y swydd yn ôl i’r gwreiddiol.

Newid gofyniad iaith

Mae’r dyddiad cau am geisiadau ar gyfer y  swydd ar Fedi 7, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm strategol Addysg a Gofal Cymdeithasol ac o uwch-dîm rheoli’r Cyngor.

Mae’r swydd yn cynnig cyflog rhwng £69,078 a 76,098, gyda’r dyletswyddau’n cynnwys gweithio gyda sefydliadau addysg a phenaethiaid ysgolion lleol.

Mae golwg360 yn deall bod yr aelod o Gabinet Cyngor Sir Conwy sy’n gyfrifol am bortffolio Addysg, y Cynghorydd Garffild Lloyd Lewis, wedi datgan bod yr angen i gyfathrebu yn Gymraeg yn “hanfodol ar gyfer y swydd”. Y gred ydi bod Uwch-Bwyllgor Cyflogaeth y Cyngor wedi mynd yn groes i’w farn, gan fynnu mai ‘dymunol’ y dylai’r Gymraeg fod yn yr ail hysbysiad.

Beirniadaeth

“Mae’r sefyllfa’n gwbl annerbyniol,” meddai Cylch yr Iaith.

“Dim ond un rheswm sydd dros newid ‘Cymraeg yn hanfodol’ i ‘Cymraeg yn ddymunol’, a hwnnw ydi bod y Cyngor wedi penderfynu mynd ati’n fwriadol i wahodd ymgeiswyr di-Gymraeg am y swydd, ac felly yn fodlon penodi person di-Gymraeg.

“Wrth wneud y penderfyniad hwn, mae’r Cyngor yn datgan nad yw’r Gymraeg yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd.

“Mae hyn yn dibrisio’r Gymraeg yn llwyr oherwydd nid oes ystyr o gwbl mewn nodi bod y Gymraeg ‘yn ddymunol’,” meddai’r Cylch wedyn. “Mae’r Gymraeg naill ai’n angenrheidiol neu’n ddiangen a di-fudd…

“Er mwyn symud y gwarth, dylid galw cyfarfod brys o’r Uwch-Bwyllgor Cyflogaeth i gywiro’r sefyllfa.”

Doedd y Cynghorydd Garffild Lloyd Lewis ddim am wneud sylw ar y mater.

Ymateb Cyngor Conwy 

“Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn chwilio am Bennaeth Addysg Dros Dro i gwmpasu cyfnod absenoldeb mamolaeth deiliad presennol y swydd, sy’n dechrau ym mis Hydref 2018,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

“Hysbysebwyd y swydd i ddechrau fel swydd Cymraeg Hanfodol, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau oedd Gorffennaf 31, 2018.

“Yn anffodus, ni ddenwyd unrhyw ymgeiswyr a oedd yn bodloni’r meini prawf Cymraeg hanfodol.

“Felly, gyda chytundeb yr Uwch Bwyllgor Cyflogaeth, rydym wedi ail-hysbysebu’r swydd fel swydd Cymraeg Dymunol er mwyn ehangu’r amrywiaeth bosibl o ymgeiswyr.

“Y dyddiad cau newydd yw Medi 7, 2018.”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

1988-2018 Cylchgrawn Golwg yn 30 oed