Mae 76.3% o ddisgyblion Safon Uwch yng Nghymru wedi llwyddo i ennill graddau A* i C, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Dyma’r gyfran uchaf ers 2009, ac o fewn hynny fe lwyddodd 26.3% i ennill graddau A* i A, a 8.7% gradd A*.

Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi croesawu’r canlyniadau gan eu disgrifio’n rhai “cadarnhaol a sefydlog”.

Y ffigyrau

Cafodd y gyfradd basio uchaf i’w gweld ym Mathemateg, gyda 42.2% yn ennill A* i A.

Mae cynnydd hefyd wedi bod yn nifer y rheiny a gafodd gradd A* mewn Ffiseg, Bioleg, Cemeg, Celf a Dylunio, Seicoleg, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol a Saesneg iaith.

Yn yr un modd, mae cynnydd yn y nifer a gafodd graddau A* i C mewn Saesneg Llên, Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Hanes, Celf a Dylunio, Cymdeithaseg ac Astudiaethau Busnes.

O ran Bagloriaeth Cymru, mae 97.7% o ymgeiswyr wedi ennill y Dystysgrif Her Sgiliau, tra bo 80.9% wedi pasio Bagloriaeth Uwch Cymru.

Mae hyn, meddai Llywodraeth Cymru, yn dangos cynnydd o 3.7% a 2.2% ers y llynedd.

“Arwyddion calonogol iawn”

“Heddiw rydyn ni’n gweld penllanw llawer o waith caled gan ein myfyrwyr a dw i am eu llongyfarch nhw, yn ogystal â’n hathrawon a’n darlithwyr gwych, ar y canlyniadau hyn,” meddai Kirsty Williams.

“Mae gyda ni ganlyniadau cadarnhaol a sefydlog, ac arwyddion calonogol iawn o gynnydd wrth inni barhau ar ein taith i ddiwygio addysg.”