Mae cynlluniau gwerth £3m i adnewyddu theatr yn Llandudno, wedi cael eu cymeradwyo.

Mae Cyngor Conwy wedi datgelu y byddan nhw’n cyfrannu £1.5m at gost adnewyddu Venue Cymru, a bydd yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo gweddill y gost.

Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Medi, ac mae disgwyl iddo ddod i ben yn 2019.

Mewn adroddiad i’r cabinet, mae swyddogion wedi argymell y gwariant gan ddadlau y byddai’n hybu twristiaeth ac yn diogelu swyddi.

Bydd yr awdurdod lleol yn gwario £1 miliwn yn y flwyddyn ariannol sydd ohoni, ac yn buddsoddi’r gweddill yn y flwyddyn ariannol nesa’.