Mae wyth o bobol wedi’u hanafu ar ol i geffyl dorri’n rhydd yn ystod Sioe Amaethyddol Sir Benfro heddiw (dydd Mercher, 15 Awst).

Dywedodd llefarydd ar ran y sioe bod ceffyl, a oedd yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth, wedi neidio dros ffens ac i mewn i’r dorf.

Cafodd wyth o bobol eu hanafu. O’r rheiny cafodd pump eu cludo i’r ysbyty gan gynnwys bachgen 12 oed a dyn 83 oed.  Mae’n debyg nad yw eu hanafiadau yn rai sy’n peryglu eu bywydau.

Roedd timau meddygol oedd ar ddyletswydd yn y sioe yn Hwlffordd wedi helpu’r rhai gafodd eu hanafu ynghyd ag aelodau eraill o’r gwasanaethau brys. Roedd ambiwlans awyr wedi cyrraedd y safle ond ni chafodd ei ddefnyddio.

Dywedodd cadeirydd Ymddiriedolwyr Sioe Amaethyddol  Sir Benfro, Mike Davies, bod eu meddyliau gyda’r rhai gafodd eu hanafu.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’r gwasanaethau brys a gyrhaeddodd y safle yn fuan iawn ac wedi helpu’r rhai gafodd eu hanafu.”

Ychwanegodd y byddai adolygiad llawn i amgylchiadau’r digwyddiad ac y byddai’r sioe yn parhau yn ôl yr arfer yfory (dydd Iau, 16 Awst).