Mae angen i arweinydd nesa’r Ceidwadwyr Cymreig ddod o sedd etholaethol, yn hytrach na sedd ranbarthol, yn ôl un o Aelodau Cynulliad y blaid.

Ers cychwyn y Cynulliad yn 1999, y Ceidwadwyr Cymreig a phlaid UKIP yw’r unig ddwy blaid sydd heb gael eu harwain gan aelod sy’n dal sedd etholaethol.

Ac wrth gefnogi Paul Davies – Aelod Cynulliad Preseli Penfro – mae Angela Burns yn dweud bod angen arweinydd sydd â “phrofiad” o gipio seddi etholaethol os yw’r Ceidwadwyr Cymreig “o ddifri” ynghylch disodli’r Blaid Lafur yng Nghymru.

Mae’n dweud hyn ar ôl i’r blaid golli tir yng ngogledd, de-ddwyrain a de-orllewin Cymru yn yr etholiad diwetha’ yn 2016, gan eu gorfodi i ddibynnu ar seddi rhanbarthol.

‘Paul Davies yw’r un’

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn wrthblaid yng Nghymru ers bron 20 mlynedd, ond yr unig fodd y gallwn ni feddiannu grym yw trwy ennill seddi etholaethol oddi ar y Blaid Lafur,” meddai.

“Yn Paul Davies, mae gennym ni arweinydd cymwys sydd â record o ennill etholaethau, gan roi’r cyfle gorau i ni o wthio Llafur o rym a sicrhau Llywodraeth Cymru wahanol.”

Y ras

Roedd Angela Burns yn un o’r pum Aelod Cynulliad a wnaeth enwebu Paul Davies ar gyfer bod yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Y pedwar arall oedd Russell George, Nick Ramsay, Mohammad Asghar a Darren Millar.

Mae Paul Davies yn wynebu her oddi wrth Suzy Davies, sef yr Aelod Cynulliad dros dde-orllewin Cymru.

Mae disgwyl i’r buddugwr gael ei gyhoeddi ar Fedi 6.