Mae ffrae iaith adeg yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd wedi dod â dau gyfyrder at ei gilydd.

Fe ddechreuodd y ffrae ar Sul cyntaf y brifwyl yng Nghaerdydd, pan ddefnyddiodd y newyddiadurwr o Gaerdydd, Marcus Stead, y wefan gymdeithasol Twitter i gwyno ynglŷn â’r “tipyn o sŵn” a oedd yn dod o gyffiniau’r Bae.

Ymhlith ei prif gwynion roedd y ffaith bod siaradwyr Cymraeg a phobol feddw ar y Maes yn ei gadw rhag ei waith.

Mae’n mynd yn ei flaen mewn neges arall wedyn yn gofyn i’r “crachach” roi’r gorau i’w boeni wrth ymateb i’w neges flaenorol, gan eu gorchymyn i ddychwelyd at eu “bore fest”.

Cysylltiad teuluol

Ymhlith yr atebion a fu i’r gyfres hon o negeseuon oedd un gan y colofnydd chwaraeon, Phil Stead, a gyhoeddodd mewn llythyr agored ar wefan Nation.Cymru ei fod yntau a Marcus Stead yn “gefndryd”.

Yn ôl Phil Stead, er nad yw’r ddau erioed wedi cyfarfod yn y cnawd, roedd hen-hen deidiau’r ddau yn frodyr, ac wedi symud o Swydd Henffordd i Dde Cymru yn 1901.

Ac, er i’r ddau gael eu geni a’u magu yng Nghaerdydd a rhannu diddordeb mewn chwaraeon, mae Phil Stead yn ychwanegu bod llwybrau’r ddau yn bur wahanol.

Tra bo Marcus Stead wedi glynu’n agos at wreiddiau’r teulu yn ne Cymru, mae Phil Stead bellach yn ngogledd Cymru ac yn byw ei fywyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ymateb y cefnder

Mewn llythyr agored arall, mae Marcus Stead yn ymateb i’w gefnder, gan ymhelaethu ar y cysylltiad teuluol rhyngddyn nhw a’u hadnabyddiaeth o’i gilydd.

Wrth gychwyn gyda’r frawddeg yn dymuno pen-blwydd priodas hapus i Phil Stead a’i wraig, mae’n nodi bod y ddau wedi dod i gysylltiad â’i gilydd trwy gyfrwng rhestr o gysylltiadau Clwb Pêl-droed Caerdydd ddiwedd y 1990au.

Mae’n dweud bod Phil Stead wedi bod mewn cysylltiad ag ef wedyn, gan holi iddo ynghylch ei deulu.

Mae’n mynd yn ei flaen wedyn trwy ddweud ei fod yn “syndod” iddo nad yw’r ddau erioed wedi cyfarfod o’r blaen, er gwaetha’r ffaith bod ganddyn nhw lawer o’r un cydnabod.

Mae modd darllen y llythyrau agored yn llawn trwy ddilyn y linciau isod.

Llythyr Phil Stead at Marcus Stead:

An open letter to my cousin Marcus Stead

Llythyr Marcus Stead at Phil Stead:

An open letter to my cousin, Phil Stead