Mae’r holl ymgeiswyr i arwain prif bleidiau Cymru wedi cael eu herio i newid gwleidyddiaeth y wlad.

Mae’r Gymdeithas i Ddiwygio Etholiadau – yr ERS – wedi sgrifennu at bob un yn galw arnyn nhw i ymrwymo i nifer o addewidion sy’n cynnwys mwy o le i fenywod ac atal camymddwyn a bygwth.

Mae etholiadau ar droed ar gyfer arweinwyr pob un o’r tair prif blaid – Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru – ac, yn ôl y Gymdeithas, mae hynny’n creu “cyfle unigryw”.

Gofyn am addewidion

Ymhlith yr ymrwymiadau, mae:

  • Addewid i sicrhau bod 45% o ymgeiswyr y blaid yn Etholiadau’r Cynulliad yn fenywod.
  • Addewid i sicrhau y bydd mwy o amrywiaeth o ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig gwahanol, o ran oed ac anabledd.
  • Arwyddo cod ymddygiad i atal cam-ymddwyn ac ymddygiad bygythiol.
  • Addewid i wella addysg wleidyddol i blant a phobol ifanc.

‘Newid sylfeini democratiaeth’

“Gallai mynd i’r afael â’r pethau sy’n rhwystro gwell cynrychiolaeth arwain at newid sylfeini ein democratiaeth,” meddai Jessica Blair, cyfarwyddwr yr ERS yng Nghymru.

“Ar ben hynny, does dim modd diodde’r lefelau o gam-drin a harasio y mae gwleidyddion yn eu hwynebu ac, ar hyn o bryd, mae’n ymddangos bod diffyg awydd i wneud dim am hyn.

“Mae gan yr ymgeiswyr yma’r dyletswydd i wneud safiad ar y mater yma a gwneud ymrwymiadau go iawn a allai newid wyneb gwleidyddiaeth Cymru i weithio’n llawer gwell er mwyn pobol Cymru.”