Mae un o undebau’r ffermwyr yng Nghymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu “ar frys” yn erbyn y diciâu mewn gwartheg.

Mae angen strategaeth “gynhwysfawr” i ddelio â’r broblem, meddai Llywydd NFU Cymru yn Sir Benfro, Jeff Evans.

Yn ôl ffigyrau swyddogol a gafodd eu cyhoeddi’r mis diwetha’, mae cynnydd o 10% wedi bod yn nifer yr achosion o’r diciâu mewn buchesi yng Nghymru yn ystod y deuddeg mis rhwng Ebrill 2017 ac Ebrill 2018.

Mae nifer y buchesi sydd o dan gyfyngiadau oherwydd y clefyd wedi codi 16% yn ystod yr un cyfnod, tra bod 3% yn fwy o wartheg wedi gorfod cael eu lladd, gyda chynnydd o 24% yn Sir Benfro.

‘Rhaid camu ymlaen’

“Alla’ i ddim pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod Llywodraeth Cymru yn camu ymlaen gyda chynllun gwir gynhwysfawr a fydd yn cael gwared ar y diciâu,” meddai Jeff Evans yn Sioe Penfro, un o ddigwyddiadau amaethyddol mwya’ Cymru..

“Allwn ni ddim bod yn yr un sefyllfa ymhen deuddeg mis yn trafod faint o wartheg cynhyrchiol sydd wedi’u colli o’r wlad.”

Mae’r ffigurau’n dangos bod 3,387 o wartheg wedi cael eu lladd yn Sir Benfro yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.

 “Camu ymlaen”

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fesurau ym mis Hydref y llynedd sy’n galluogi ffermwyr sy’n byw mewn ardal lle mae’r diciâu ar ei waethaf, i reoli’r clefyd.

Mae’r mesurau hyn yn cynnwys yr hawl – gyda thrwydded – i weithredu yn erbyn moch daear sy’n cario ac yn lledaenu’r diciâu, gyda’r gweithredu hwnnw’n cynnwys trapio, cynnal profion neu ladd yr anifail.

Ond yn ôl Jeff Evans, dim ond tair ffarm trwy Gymru gyfan a dderbyniodd drwydded yn 2017 , gyda dim ond pum mochyn daear wedi’u lladd.

Mae’n galw felly ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau sy’n gweithio’n iawn, gan ddweud bod angen strategaeth “gynhwysfawr” wrth fynd i’r afael â’r diciâu.