Mae’r chwaraewr tenis bwrdd o Gymru, Betty Gray, wedi marw yn 96 oed.

Roedd y wraig o Resolfen ger Castell-nedd wedi bod yn enw adnabyddus ym myd chwaraeon am dros 70 mlynedd.

Yn Llywydd ar gorff Tenis Bwrdd Cymru, roedd hi wedi chwarae yn ei chlwb ym Mhenlan, Abertawe, ers 1945 ac wedi cynrychioli Cymru mwy na 250 o weithiau yn y gamp.

Yn 2012, hi oedd y person hynaf yng Nghymru i gario ffagl y Gemau Olympaidd pan gafodd y digwyddiad ei gynnal yn Llundain.

Wrth dalu teyrnged iddi, mae Tenis Bwrdd Cymru yn dweud ei bod wedi bod yn “allweddol” mewn rhedeg clwb yn Abertawe a fu’n feithrinfa i nifer o chwaraewyr y gamp.

“Bu’n llysgennad i’r gamp ac fe fydd yn cael ei chofio am byth,” meddai’r datganiad.