Mae gweithwyr Cymru yn teimlo llai o bwysau na gweithwyr yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn ôl gwaith ymchwil diweddar.
Dros wledydd Prydain oll mae 9% o bobol yn dweud ei bod yn teimlo straen di-baid oherwydd gwaith, ond yng Nghymru mae’r ffigwr yn disgyn i 4%.
Ac mae traean o Gymru (29%) yn dweud nad ydyn nhw’n profi unrhyw straen o gwbl yn y gweithle – y ganran uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Gorllewin Canolbarth Lloegr sy’n teimlo pwysau gwaith fwyaf. Yno mae 19% o weithwyr yn teimlo straen bob awr.
“Ar flaen y gad”
“Mae’n ymddangos bod busnesau Cymreig ar flaen y gad o ran mynd i’r afael â straen yn y gweithle,” meddai Andrew Weir, Rheolwr o Moorepay – arbenigwyr adnoddau dynol.
“Dydy hynny ddim o reidrwydd yn golygu eu bod wedi cyflwyno prosesau drud, ac sy’n cymryd llawer o amser. Mae polisïau effeithiol yn ddibynnol ar symlrwydd ac ymatebion.”
Cafodd yr arolwg ei gynnal gan ym mis Mai 2018, a chafodd 1,000 o bobol eu holi.