Rhaid sicrhau bod anghenion lluoedd gwledig yn cael eu cydnabod wrth ddosbarthu cyllid heddlu.

Dyna alwad Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru sydd am weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn adolygu’r fformiwla ar gyfer dosbarthu cyllid yr heddlu.

Mae Aelod Seneddol Ceredigion hefyd eisiau bod cyllid ar gael i gefnogi cydweithio rhwng lluoedd heddlu gwahanol – lluoedd gwledig yn benodol.

“Mae’n hanfodol bod ein lluoedd heddlu yn derbyn adnoddau digonol er mwyn cyrraedd yr angen ar gyfer eu hardaloedd,” meddai Ben Lake.

“Rwyf eto’n galw ar y Llywodraeth i adolygu’r fformiwla ar gyfer cyllid canolog heddlu er mwyn sicrhau bod heriau heddlua gwledig yn cael eu cydnabod pan gaiff y cyllid ei ddosbarthu.”

Lladrata

Daw sylwadau’r Aelod Seneddol yn sgil cyhoeddiad adroddiad sy’n dangos bod costau trosedd gwledig ar gynnydd yng Nghymru.

Yn ôl gwaith NFU Mutual, yswiriwr ffermydd, arweiniodd lladrata gwledig at gostau o £1.9 miliwn yng Nghymru’r llynedd – cynnydd o 41.4% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae’r adroddiad yn nodi mai cerbydau tir, beiciau cwad, offer, ac anifeiliaid, sy’n cael eu dwyn amlaf.