Mae hwrdd a gafodd ei fridio yng Nghymru yn cael ei ystyried, ar hyn o bryd, yn hwrdd gorau’r Deyrnas Unedig.

Yn ôl ffigyrau diweddara’ gan y prosiect RamCompare, mae hwrdd Texel, sydd wedi’i fridio gan Alwyn Phillips o fferm Pen-y-Gelli ger Caernarfon, ar frig y tabl.

Mae RamCompare yn fenter ymchwil sy’n dadansoddi data o wahanol fridiau yn ystod camau gwahanol yn y gadwyn gyflenwi.

Mae’r data’n cael ei gasglu er mwyn cryfhau gwerthuso genetig a helpu bridwyr defaid i gynhyrchu anifeiliaid yn unol â galw’r cwsmer.

Dechreuodd y fenter yn 2015, ac mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan Hybu Cig Cymru.

Mae’r cynllun ar fin cychwyn ar ei bedwerydd tymor bridio pan fydd mwy o hyrddod yn cael eu rhoi ar brawf ledled y Deyrnas Unedig.