Gwynfor Dafydd yn ‘dod mas’ yng nghystadleuaeth y Goron

Diweddarwyd am  
Gwynfor Dafydd, enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd y Fflint yn eistedd ar ei Gadair

Gwynfor Dafydd – enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd y Fflint

Gwynfor Dafydd, bardd buddugol Eisteddfod yr Urdd yn eistedd ar ei Gadair.

Roedd wedi llunio cerdd ar y testun ‘Cam’, gan sôn am dlodi yng Nghymoedd De Cymru, a’r sylw negyddol mae’r ardal yn ei cael yn y cyfryngau

Y bardd ifanc o Donyrefail, Gwynfor Dafydd, oedd un o’r tri a ddaeth yn agos at gipio’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

Mae Gwynfor Dafydd wedi ennill Cadair yr Urdd ddwywaith yn y blynyddoedd diwetha’, ac eleni ef oedd ‘Mas’ yng nghystadleuaeth y Goron.

Roedd wedi canu am y profiad o ‘ddod mas’, gyda’r casgliad yn olrhain hanes persona’r bardd yn dod i delerau â’i rywioldeb.

Roedd 42 wedi ymgeisio am y Goron eleni, ac yn ôl un o’r beirniaid, Damian Walford Davies, Gwynfor Dafydd oedd “llais mwyaf egnïol y gystadleuaeth”.

Mae’r bardd ifanc wedi cadarnhau ar y wefan gymdeithasol, Facebook, mai fe oedd ‘Mas’, ac mae’n ychwanegu ei fod yn edrych ymlaen at gyhoeddi ei waith yn “fuan iawn”.

Dw i’n falch iawn o allu cyhoeddi mai fi oedd yn cuddio tu ôl i’r ffugenw ‘Mas’ yng nghystadleuaeth y Goron, un o dri…

Posted by Gwynfor Dafydd on Monday, August 13, 2018

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

1988-2018 Cylchgrawn Golwg yn 30 oed