Mae ystâd yn Sir Ddinbych, sy’n cadw ceirw ac ychen gwyllt (beison), wedi agor drive thru.

Mae Ystâd Rhug ger Corwen, yn adnabyddus am werthu cig organig, ac eisoes wedi agor Bistro, Siop Prydau Parod a Siop Fferm ar eu safle.

A bellach mae modd i ymwelwyr brynu diodydd, brechdanau, a chacennau o drive thru ger mynedfa eu fferm ar ffordd yr A5.

Dyma’r tro cyntaf i drive thru gael ei osod ar fferm yn y Deyrnas Unedig, yn ôl Ystâd Rhug.

“I’r teithiwr llwglyd”

“Mae’r byd sydd ohoni yn le prysur, a dw i’n cydnabod nad oes gan bawb cyfle i stopio a mwynhau pryd blasus yn ein Bistro neu Siop Prydau Parod,” meddai Arglwydd Newborough, Perchennog yr Ystâd.

“Felly bydd y Drive Thru yn ategu’n dda at yr arlwy sydd gennym yn barod, ac mi fydd yn cynnig opsiwn hawdd a chyflym i’r teithiwr llwglyd sydd am barhau ar eu siwrnai heb oedi.

“Gobeithiaf bydd hyn yn apelio at bobol leol, yn ogystal ag ymwelwyr.”