Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio pobol i “gymryd gofal” ar ôl i algâu gwenwynig gael eu gweld mewn llyn yng Nghaerdydd.

Yn ôl y corff amgylcheddol, maen ymchwiliad wedi dangos bod algâu gwyrddlas ym Mharc y Rhath.

Y tywydd poeth sy’n gyfrifol, medden nhw, ac, er bod y rhan fwyaf o algâu yn ddiniwed i bobol ac anifeiliaid, maen nhw’n ychwanegu bod algâu gwyrddlas yn gallu achosi salwch.

“Rydym yn cynghori pobol i gymryd gofal ohonyn nhw eu hunain a’u hanifeiliaid anwes pan fyddan nhw’n agos at ddŵr gydag algâu gwyrddlas,” meddai Cyfoeth Naturiol Cymru mewn datganiad.