Mae dau ffotograffydd amlwg wedi galw ar i asiantaeth ffotograffig sy’n cael arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru i roi’r gorau i gydweithio gyda Sawdi Arabia.

Fe ddaw’r alwad yn benodol yn dilyn cyrch gan y wlad a’i chynghreiriaid a laddodd blant yn yr Yemen yr wythnos ddiwetha’.

Mae’r ffotograffydd Emyr Young wedi dechrau ymgyrch ar wefan Twitter yn galw ar i ffotogallery yn Penarth ger Caerdydd roi’r gorau ar unwaith i’r cydweithio gyda Sawdi Arabia a gwledydd yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Mae’r asiantaeth, sy’n hyrwyddo gwaith ffotograffig yng Nghymru, wedi ennill arian gan y Cyngor Prydeinig i gydweithio gyda’r gwledydd hynny – aelodau cynghrair sy’n ymladd yn erbyn gwrthryfelwyr Houthi yn Yemen.

‘Dim cyfiawnhad’

“Does dim cyfiawnhad tros gywaith ffotograffig gyda Sawdi na’r un aelod arall o’r gynghrair,” meddai Emyr Young, ffotograffydd llawrydd amlwg sy’n gweithio i nifer o gylchgronau a chyfryngau a newydd gyhoeddi  cyfrol o luniau.

Yn sgil yr ymosodiad nos Iau (Awst 9), pan gafodd dwsinau o blant a phobol gyffredin eu lladd pan fomiwyd bws ysgol, mae Emyr Young wedi galw ar ffotogallery i roi’r gorau i’r cydweithio ar unwaith.

Mae’r ffotograffydd rhyngwladol a’r dyn camera Aled Jenkins eisoes wedi cefnogi’i neges.

“Rwy’n galw arnyn nhw i beidio â chydweithio gyda’r gwledydd hyn oherwydd natur y gyflafan a’r hyn y maen nhw’n ei wneud i bobol Yemen,” meddai Emyr Young.

“Oherwydd bod yr asiantaeth yn y pen draw dan adain y Llywodraeth, mae’n ymddangos bod pwysau’n cael ei roi i greu’r cysylltiadau yma er mwyn cadw’r Sawdis yn hapus.”

‘Ceisio tanseilio’ – ymateb ffotogallery

Mae Cyfarwyddwr yr asiantaeth, David Drake, wedi ymateb trwy gyhuddo Emyr Young a chynnal “ymgyrch i danseilio ffotogallery [a’u] gwaith yng Nghymru”.

Yn ddiweddar mae’r ffotograffydd wedi bod yn “gwneud honiadau ffug a negeseuon Twitter camarweiniol” am y cwmni, meddai.

Ac mae wedi dweud ei fod yn “hynod o siomedig â’r bwlio di-baid, tôn, a defnydd ymosodol o blatfformau cyfryngau cymdeithasol, gan Emyr Young”.

Mae hefyd yn dweud ei fod wedi cynnig siarad ag Emyr Young yn y cnawd i wrando ar ei bryderon, ond bod y ffotograffydd wedi gwrthod ei gynigion.

‘Condemnio’

“Dw i’n ymwybodol iawn o droseddau hawliau dynol a gweithredoedd llywodraethau anfoesegol – a dw i’n eu condemnio,” meddai  wrth golwg360, gan restru gwledydd o’r Dwyrain Canol a’r Deyrnas Unedig ymhlith y llywodraethau rheiny.

“Yn anffodus, dyma’r byd rydym yn rhan ohoni ar hyn o bryd. Fodd bynnag, dydy hynny ddim yn golygu bod yn rhaid i ni roi diwedd ar bob ymgais i gydweithio â’r gwledydd yma yn ddiwylliannol.

“O brofiad, mae dialog rhyng-ddiwylliannol trwy’r celfyddydau yn dechneg effeithiol o annog rhagor o ymwybyddiaeth am weithredoedd anfoesegol llywodraethau – ac o ran ei herio.

“Mae ynysu ein hunain o artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol mewn gwledydd eraill – yn enwedig pobol ifanc – a chefnu ar ddeialog, yn fwy tebygol o annog holltau cymdeithasol, anghydraddoldeb, hiliaeth a senoffobia.”

Y prosiect

O ran y prosiect ei hun, mae David Drake yn mynnu ei fod yn “hollol ddiwylliannol ac addysgiadol” a dydyn nhw ddim yn gweithio tros, yn derbyn arian gan, neu’n cefnogi, unrhyw lywodraeth, meddai.

Mae’n dweud bod y prosiect yn canolbwyntio ar brofiadau pobol o wledydd Prydain sy’n byw yn ardal Cyngor Cydweithrediad y Gwlff (GCC) ac o bobol o’r GCC sy’n byw yn y Deyrnas Unedig.

Bydd y gwaith yn cael ei arddangos mewn sawl man yn y Deyrnas Unedig – gan gynnwys Cymru.

Mae David Drake wedi cadarnhau ei fod wedi ymweld â phob un o wledydd y GCC gan gynnwys Sawdi Arabia.