Fe fydd y diwydiant cregynbysgod yn cael hwb yn dilyn cyhoeddi £2.8m ychwanegol ar gyfer canolfan wyddoniaeth ac arloesi ym Mhrifysgol Bangor.

Fe fydd yr arian, a gafodd ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford, yn mynd i gefnogi ymchwil a thechnoleg yng nghanolfan gregynbysgod y brifysgol.

Bydd hyn yn cynnwys gwella ansawdd dyfroedd arfordirol, mabwysiadu dulliau technolegol a chynhyrchu newydd a mentro i farchnadoedd newydd, sydd oll yn flaenoriaethau i’r diwydiant yng Nghymru.

Yn ystod y pum mlynedd nesaf, fe fydd oddeutu 20 o fusnesau yng Nghymru’n cymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil i gefnogi twf y diwydiant cregynbysgod.

‘Manteisio i’r eithaf ar arbenigedd’

Wrth gyhoeddi’r arian, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: “Mae ymchwil wedi’i hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd yn chwarae rhan hanfodol bwysig i fanteisio i’r eithaf ar yr arbenigedd o fewn ein prifysgolion er mwyn i fusnesau Cymru fod ar y blaen o ran gwyddoniaeth a thechnoleg.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn gwella gallu busnesau i gystadlu, gan arwain at ddatblygu diwydiant pysgod cregyn cryf a chynaliadwy yng Nghymru.”

Dywedodd  yr Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Dyma ddiwydiant gwerthfawr sydd eisoes yn dod â manteision economaidd sylweddol i Gymru, ac sydd â’r potensial i dyfu ymhellach gyda chymorth arbenigedd technolegol ac ymchwil wyddonol ein prifysgolion.”

‘Hanes hir a llwyddiannus o ymchwil’

Wrth ymateb i’r cyllid, dywedodd yr Athro Lewis Le Vay o Brifysgol Bangor: “Mae gennym hanes hir a llwyddiannus o ymchwil ar y cyd â chynhyrchwyr pysgod cregyn Cymru, ac rydyn ni’n falch iawn bod y fenter newydd a chyffrous hon yn rhoi cyfle i ni adeiladu ar y berthynas gynhyrchiol iawn hon.

“Ein nod hirdymor yw i waddol y ganolfan pysgod cregyn fod yn gynaliadwy, gan dyfu’r sector cynhyrchu a phrosesu pysgod cregyn yng Nghymru. Gyda chymorth partneriaeth o wyddoniaeth ac arloesi, bydd y fenter hon yn gosod cynhyrchwyr pysgod cregyn Cymru ar y blaen yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.”

A dywedodd cynrychiolydd Cynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor, James Wilson: “Bydd ein gallu i wrthsefyll effaith Brexit yn dibynnu’n rhannol ar ddealltwriaeth wyddonol o’r radd flaenaf am ein hadnoddau a’r amgylchedd morol. Dylai’r buddsoddiad hwn yn y ganolfan pysgod cregyn helpu i gyflawni hyn.”