Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin.

Tarodd car Volvo V50 arian a Toyota Avensis arian yn erbyn ei gilydd ar yr A484 rhwng Caerfyrddin a Chwmffrwd. Bu farw gyrrwr un o’r cerbydau yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Cafodd yr heddlu eu galw am 6.10 fore heddiw, a chafodd y gyrrwr arall ei gludo i’r ysbyty â man anafiadau.

Mae’r ffordd ar agor unwaith eto ers 6.10 heno (nos Sul).

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.