Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am gawodydd taranllyd ledled Cymru.

Maen nhw’n rhybuddio y gallai hyd at 30mm o law gwympo o fewn awr.

Mae’r rhybudd yn ei le rhwng 12 o’r gloch ac 8 o’r gloch heno (nos Sul).

Fe allai rhai ardaloedd wynebu llifogydd a cholli cyflenwadau trydan o ganlyniad i fellt.

Dylai teithwyr fod yn ofalus ar y ffyrdd, ac mae oedi’n bosibl ar drafnidiaeth gyhoeddus.