Mae pôl piniwn newydd yn awgrymu mai ansicrwydd pleidleiswyr Llafur yng Nghymru sy’n rhannol gyfrifol am ganlyniad sy’n dangos bod y mwyafrif o bobol yng ngwledydd Prydain bellach yn gwrthwynebu Brexit.

Fe fyddai mwy na 100 o etholaethau a bleidleisiodd o blaid Brexit bellach yn cefnogi aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, meddai’r ymchwil gan Focaldata, oedd wedi holi 15,000 o bobol.

Maen nhw’n dweud bod 112 allan o 632 o etholaethau wedi newid eu meddwl o edrych ar ganlyniadau’r pôl piniwn, gyda 14 ohonyn nhw yng Nghymru, 97 yn Lloegr ac un yn yr Alban.

Ymhlith yr etholaethau yn Lloegr sydd wedi newid eu barn mae Uxbridge a De Ruislip, etholaeth Boris Johnson, a Surrey Heath, etholaeth Michael Gove.

Ond mae hefyd yn awgrymu ansicrwydd cynyddol yng Nghymru a gogledd Lloegr.

Ar y cyfan, roedd 53% o blaid aros a 47% o blaid gadael.

Mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn yn parhau i wrthod cefnogi ail refferendwm, er bod polau piniwn yn aml yn awgrymu bod y mwyafrif o aelodau’n gwrthwynebu Brexit erbyn hyn.

‘Dadrithio’

Wrth ymateb, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Vince Cable fod “bron pawb wedi dadrithio” yn sgil “llanast y Ceidwadwyr” wrth geisio rhoi trefn ar y broses Brexit.

Ac fe ddywedodd wrth rali ym Mryste fod “rhaid” i bobol Prydain gael y gair olaf am delerau’r broses, a bod angen i’r holl bleidiau gydweithio er mwyn sicrhau ail refferendwm.

Dywedodd fod “y sefyllfa wedi newid, a’r ffeithiau wedi newid” ers i’r bleidlais wreiddiol gael ei chynnal yn 2016.

Mae Jacob Rees-Mogg, aelod seneddol Ceidwadol sydd o blaid Brexit, wedi wfftio’r pôl piniwn, gan ddweud mai canlyniad y refferendwm yn unig sy’n bwysig.