Mark Wallace - balch o chwarae tros Gymru (o wefan y sir)
Fe fydd clwb criced Morgannwg yn chwarae dan enw Cymru mewn cystadlaethau un diwrnod y tymor nesa’.

Fe gyhoeddodd y sir mai Dreigiau Cymru – Welsh Dragons – fydd eu henwau yn y cystadlaethau 20 pelawd a 40 pelawd yn 2012.

Ac mae’r clwb yn dechrau ar sioeau teithiol o amgylch y wlad wrth iddyn nhw geisio denu chwaraewyr a chefnogwyr newydd.

“Mae pob chwaraewr yn gwybod, ym Morgannwg, ei fod yn cynrychioli Cymru gyfan, yn ogystal â’r sir,” meddai’r capten newydd, Mark Wallace, sy’n hanu o’r Fenni.

“R’yn ni’n teimlo’r balchder a’r anrhydedd yna ym mhob peth yr ’yn ni’n ei wneud.”

Eisiau denu chwaraewyr Cymreig

Morgannwg yw’r unig sir ddosbarth cynta’ o Gymru ac mae chwaraewyr proffesiynol Cymreig yn gorfod chwarae dan enw Lloegr ar y meysydd rhyngwladol.

Yn awr, mae’r sir yn anelu at yr un math o apêl ag sydd gan glwb pêl-droed Barcelona yng Nghatalunya – yn cael ei weld yn fath o dîm cenedlaethol.

“R’yn ni eisiau i bob chwaraewr criced talentog o Gymru fod yn dyheu am chwarae i Forgannwg,” meddai Mark Wallace.

“Mewn rhai fel James Harris, Will Owen a Gareth Rees, mae gyda ni eisoes nifer o chwaraewyr talentog sydd wedi eu meithrin yma yn gwneud argraff yn y tîm.”