Bydd pobol sydd o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor, yn cyflwyno deiseb ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Awst 11).

Mae 5,000 o bobol wedi arwyddo’r ddeiseb sy’n galw ar awdurdodau i barchu cod newydd – cod sydd o blaid cadw ysgolion bychain ar agor, ond sydd heb ddod i rym eto.

Yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, gyflwynodd y cod, ac mae wedi galw ar awdurdodau lleol i gadw at ei ysbryd cyn iddo ddod i rym cyn diwedd y flwyddyn.

Ond mae rhieni sydd â phlant mewn ysgolion gwledig, ynghyd ag ymgyrchwyr iaith, yn teimlo nad yw’r cod yn cael ei barchu.

Bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, gan Llinos Thomas Roberts, ysgrifennydd Cymdeithas Rhieni/Athrawon Ysgol Bodffordd.

“Anwybyddu”

“Rydyn ni fel Cymdeithas wedi canmol y Gweinidog Addysg am roi gobaith newydd i ysgolion gwledig, ond mae penderfyniad Cyngor Môn i anwybyddu’r cod yn llwyr yn dwyn anfri ar y ddemocratiaeth Gymreig ifanc a gynrychiolir gan y senedd hon,” meddai Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Maen nhw wedi anwybyddu’r broses gywir o ran ymgynghori, wedi anwybyddu barn rhieni, ac wedi gwrthod hyd yn oed ystyried yr opsiynau eraill fel y mae’r gyfraith yn gofyn ganddynt.

“Mae’n her uniongyrchol i’r Gweinidog, ac mae angen iddi ymateb neu bydd colli pob ffydd mewn prosesau democrataidd.”