Bydd £51 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn canolfannau technoleg yng Nghymru.

Mae’r buddsoddiad yn rhan o raglen ehangach gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig – eu ‘Strategaeth Ddiwydiannol fodern’.

Menter a fydd yn elwa o’r buddsoddiad bydd Catapwlt Lled-ddargludydd Compowndio yng Nghaerdydd – catapwlt yn yr ystyr ei fod yn ‘catapwltio’ syniadau i’r farchnad.

“Cefnogi arloeswyr”

“Rydym yn cefnogi cwmnïau Prydeinig arloesol i dyfu a chreu swyddi, wrth i ni adeiladu economi sydd yn ffit ar gyfer y dyfodol,” meddai’r Canghellor, Philip Hammond.

“Bydd y buddsoddiad £51 miliwn yma i Gymru yn cefnogi arloeswyr ledled y wlad i greu technoleg ar gyfer y dyfodol, a’r swyddi tâl uchel rydym i gyd am weld.”