Mae angen arbrofi gyda chymunedau lle mae’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn cael ei gymryd yn gwbl ganiataol, meddai un o’r prif gynllunwyr iaith yng Nghymru.

Dyna un o’r camau pwysica’ tuag at gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg, meddai’r Athro Colin Williams mewn darlith yn yr Eisteddfod.

Fe fyddai hynny’n golygu rhoi hawliau i gymunedau, nid dim ond unigolion, gan ddilyn polisi sydd wedi ei weithredu yng Nghanada.

“Mae’r llywodraeth yno wedi derbyn onibai bod yna hawliau cymunedol, does dim pwrpas cynnig hawliau i unigolion – mae angen gofod lle gallan nhw ddefnyddio’r hawliau hynny.”

Angen arbrofi

Yn y gorffennol, fe allai cynghorau mawr fel yr hen Ddyfed neu Wynedd fod wedi gallu gweithredu polisi o’r fath; yn awr, mae Colin Williams yn awgrymu arbrawf mewn ardal fel Ceredigion neu Lŷn.

“Mae angen arbrofi gydag un neu ddwy o ardaloedd, gan greu gofod saff lle does dim angen gofyn am ganiatâd i ddefnyddio’r iaith heb ofni cael eu gwrthod.”

Ac, wrth roi cyfrifoldeb felly, meddai, mae angen i’r Llywodraeth hefyd roi adnoddau digonol – mae trosglwyddo cyfrifoldeb heb adnoddau yn “haerllug”.

Rhyddid i weithredu

Un o’i alwadau mawr eraill  oedd ar i Lywodraeth roi cefnogaeth i gyrff a mudiadau Cymraeg weithredu a datblygu syniadau creadigol tros yr iaith heb orfod ymateb i dargedau a rheoliadau caeth.

“Mae’r Gymraeg yn brosiect sy’n cael ei brynu gydag arian cyhoeddus, ond mae angen gadael i bobol ddatblygu’r iaith heb fod dan reolaeth y llywodraeth – i’w siwtio nhw yn hytrach na chyrraedd targedi llywodraeth.”

Ar yr un pryd, roedd yn galw ar i fudiadau a chyrff eraill gefnogi nod y Llywodraeth, heb gytuno gyda phopeth, gyda’r pwyslais ar greu siaradwyr newydd go iawn.