Mae gwybodaeth am yr arian y mae Llywodraeth Prydain yn ei wario ar drafnidiaeth yn dangos bod Cymru wedi colli biliynau o bunnau ers sefydlu’r Cynulliad.

Os y byddai Cymru wedi derbyn yr un lefel o fuddsoddiad â’r Deyrnas Unedig (ar gyfartaledd) ers datganoli, fe fyddai £1.6 biliwn yn rhagor wedi cael ei fuddsoddi.

A phetasai’r wlad wedi derbyn yr un lefel â de ddwyrain Lloegr dros yr un cyfnod, byddai £5.6 biliwn yn rhagor wedi cael ei fuddsoddi yno.

Daw’r ystadegau o ymchwil ‘Cyllidebau Sector Cyhoeddus Rhanbarthol a Gwladol’ y Swyddfa Ystadegau.

“HS2 Cymreig”

Mae un Aelod Seneddol wedi bod yn tynnu sylw at y gwariant.

“Dyna fe! Gallwn fforddio HS2 [rheilffordd cyflymder uchel arfaethedig yn Lloegr] Cymreig,” meddai’r Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, mewn neges ar Twitter.

“Pobol Cymru, dyfalwch i le mae’ch trethi yn mynd – Mae’n cael ei rhannu a’i ddyfarnu yn arddull Llafur â’r Torïaid,” meddai mewn neges arall. “Ni sy’n rhannu, nhw sy’n ei ddyfarnu.”