Mae disgwyl i gyn-Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, lansio ei ymgyrch bore yma i ymuno yn y ras am arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Bydd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, sy’n Aelod Cynulliad dros Flaenau Gwent, yn cyhoeddi ei fwriad i sefyll yn Nhredegar heddiw.

Mae bellach pump AC Llafur wedi dweud eu bod am sefyll i olynu Carwyn Jones yn Brif Weinidog – Mark Drakeford, Vaughan Gething, Eluned Morgan, Huw Irranca-Davies ac Alun Davies.

Ond mae angen enwebiad pump AC o’r grŵp ar bob ymgeisydd er mwyn sefyll yn yr etholiad a dim ond Mark Drakeford, sydd â 13 enw yn ei gefnogi, sydd wedi llwyddo i sicrhau hynny ar hyn o bryd.

Mae gan Vaughan Gething bedwar enw y tu ôl iddo ac felly mae angen un arall arno.

Yn ôl ffynhonnell yng ngrŵp Llafur, does neb yn y grŵp yn cefnogi Eluned Morgan, Huw Irranca-Davies nac Alun Davies ar hyn o bryd.