Mae enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn dweud ei fod yn “hyderus” bod modd i wyddonydd arddel y ffydd Gristnogol hefyd.

Daw Dr Hefin Jones yn wreiddiol o Bencader yn Sir Gaerfyrddin, ac ers deunaw mlynedd mae wedi bod yn ddarlithydd yn Ysgol Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Er ei fod yn cyfaddef bod gwyddoniaeth a Christnogaeth yn ddwy agwedd “hollol wahanol”, mae’n mynnu mai’r un swyddogaeth sydd i’r ddwy yn y bôn, sef “deall bywyd”.

“Beth mae gwyddoniaeth yn ei wneud trwy esblygiad ac astudio genynnau a DNA ac yn y blaen yw deall y fecanwaith petai – sut mae pethe’n gweithio, sut mae un rhywogaeth yn medru addasu ac yn y pen draw, efalle, yn troi’n rhywogaeth arall,” meddai wrth golwg360.

“Beth dw i’n ei gredu y mae ffydd yn ei wneud, mae’n e’n rhoi pwrpas i’r holl beth.

“Ond dydw i ddim yn credu – o gymryd y ffydd Gristnogol – fod y Beibl yn egluro sut mae pethe wedi digwydd, ond mae’n egluro pam bod pethau wedi digwydd a beth yw’r rhesymeg.

“Sut dw i’n medru gweld bod y ddau i mi, beth bynnag, yn cyd-gerdded gyda’i gilydd yw dydw i ddim yn gweld gwrthweithio rhwng y ddau beth.”