Mae rociwr a bardd mwya’ cŵl Cymru yn gobeithio gwsigo’i ‘shêds’ wrth gael ei dderbyn i’r Orsedd yfory (dydd Gwener, Awst 10).

Ac fe ddatgelodd Geraint Jarman pam ei fod wedi dewis yr enw Geraint Glanrafon ar gyfer y seremoni – mae’n cofnodi’r blynyddoedd rhwng 4 ac 13 oed, pan oedd yn byw yn ardal Glanrafon Caerdydd, yr ardal ddosbarth gwaith, gymysg, ar lannau Taf.

Mewn sesiwn yn y Babell Lên, fe ddywedodd mai dyna flynyddoedd hapusa’i blentyndod ond eu bod nhw wedi dod i ben  yn ddisymwth.

“Oedd fy ffrind gorau fi, wedi cael ei ladd mewn damwain yn reidio beic i’r ysgol,” meddai, “ac wedyn oedden ni wedi gadael Glanrafon a mynd i Barc y Rhath ac oedd pob dim mor ddosbarth canol ac mor wahanol. Dyna pryd yr esi ar gyfeiliorn.”

Barddoniaeth – y peth pwysica’

Rhan o’r achubiaeth oedd dod i garu barddoniaeth – barddoniaeth Saesneg i ddechrau ac wedyn barddoniaeth Gymraeg… “y peth pwysica’ yn fy mywyd i”.

Fe eglurodd ei fod wedi troi yn benna’ at sgrifennu caneuon oherwydd ei bod yn haws cyrraedd pobol gyda’r rheiny yn hytrach na cherddi.

Mae ganddo ganeuon yn barod eisoes ar gyfer ei ddeunawfed albwm a digon o gerddi am gyfrol arall.