Mae angen cryfhau cyfansoddiad a chyfraith Cymru er mwyn diogelu’r genedl rhag hiliaeth wrth-Gymreig, yn ôl cyn Comisiynydd Cydraddoldeb Hiliol Cymru.

Ac mae angen i’r genedl uno a bod yn llawer fwy “eofn” yn wyneb yr achosion cynyddol o bobol sy’n lladd ar y Cymry Cymraeg – cynnydd “eithriadol o beryglus”, yn ôl Aled Edwards.

Mewn darlith ar Herio Hiliaeth Wrth-Gymreig yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw, dywedodd fod ymosodiadau wrth-Gymreig fel arfer yn cymharu’r Gymraeg â dwyieithrwydd fel “gwastraff.”

Awgrymodd prif weithredwr Cytûn fod y cynnydd mewn gwleidyddiaeth “populist” yn ymwneud â’r cynnydd yn erbyn y Gymraeg am “ein bod ni’n meiddio bod yn wahanol.”

“Erbyn hyn pan mae pobol yn feirniadol ohonom ni fel Cymry ac fel Cymry Cymraeg… yr hyn sy’n eu cynddeiriogi nhw ydy bod ni’n meiddio bod yn wahanol,” meddai.

“Nid yn unig hynny, yn arbennig yr Eisteddfod yma, rydan ni hefyd yn eu hanfon nhw yn gynddeiriog oherwydd bod ni’n lluosog. Rydan ni’n fwy nag un peth.

“Dw i wedi dadlau yn gyson, yr hyn sydd yn gwneud ni’n genedl fel Cymry yw nid bod ni gyd yr un fath ond oherwydd bod gennym ni nifer o luosogau – yn drefol, yn wledig, yn gynhenid, yn newydd, yn ffres ac yn gyfoes.”

“In your face” Cymreictod

Wrth gyfeirio at yr Eisteddfod a dathliadau Geraint Thomas heddiw ger y Senedd, dywedodd fod y Cymry a’u Cymreictod yn fwy hyderus heddiw.

“Dw i’n credu yn y Cymry Cymraeg a’r Cymru sydd ohoni, rydan ni ar drothwy cyfnod anturus aruthrol. Dw i’n teimlo bwrlwm yn y tir.

“Mi gewch chi lot o “in your face” Cymreictod. Mae yna faner aruthrol y tu allan i’r adeilad yma yn barod. Rydan ni’n mynd yn hyderus.”

“Cyfanrwydd” cenedl

Ond mae angen tri agwedd ar “gyfanrwydd” i gryfhau sefyllfa’r genedl yn wyneb hiliaeth, meddai.

“Yn wyneb y sefyllfa sydd ohoni heddiw, dw i’n credu bod rhaid i ni wneud nifer o bethau ar sail cyfanrwydd.

“Mae’n rhaid i ni ymdrechu i gael cyfanrwydd cyfansoddiadol… yr hyn sy’n ein gwneud ni’n wan ydy gwendid ein cyfansoddiad ni.

“Yn ail, mae sefyllfa cyfreithiau Cymru yn dameidiog, mi wnaeth sawl un ohonom ni wrthwynebu’r amcanion ar gyfer Deddf Llywodraeth Cymru’r flwyddyn ddiwethaf oherwydd er bod o’n symud i’r dull cadw o basio cyfreithiau, roedd cymaint o bethau yn cael eu cadw yn ôl, doedd yna ddim synnwyr ynddo fo.

“Mae’n rhaid i ni hefyd gael cyfanrwydd cenedl, hyn rydan ni’n ei ganfod pryd bynnag mae hawliau dynol yn cael eu diogelu, mae cyfanrwydd cenedl yn dweud digon yw digon.

“Mae mantra gen i – allwch chi ddim dweud bod yna wahaniaeth rhwng gwledig a threfol, rhwng newydd a hen.

“Mae’n rhaid i ni lynu wrth ddoethuriaeth fawr Waldo – ynof i mae Cymru’n un. Un bobol ydan ni.

“Ac mae’n rhaid i ni fod yn llawer mwy eofn i ddweud wrth y byd bod gennym ni etifeddiaeth ragorol.”